GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
012 - Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022 [Saesneg yn unig] Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 18 Hydref 2022 |
|
Sifftio |
|
Yn destun sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Cefndir
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Crynodeb
Defnyddir cynhyrchion bioleiddiadol i ddiogelu pobl ac anifeiliaid, cadw nwyddau, atal plâu fel pryfed neu gnofilod a rheoli firysau, bacteria a ffyngau drwy weithred gemegol neu fiolegol. O ganlyniad i ymadael â’r UE, ac fel rhan o fframwaith cyffredin ledled Prydain, mae’n ofynnol bellach i gynhyrchion bioleiddiadol gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan drefn newydd Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr. Yn benodol, mae’n ofynnol i awdurdodiadau a wnaed cyn ymadael â’r UE gael eu hail-gyflwyno i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn i’r Awdurdod hwnnw eu hawdurdodi o dan drefn newydd Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr.
O dan drefn Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr, mae’n ofynnol i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch brosesu ceisiadau am awdurdod o fewn 3 blynedd. Heb awdurdodiad o'r fath, ni ellir gwerthu'r cynnyrch bioleiddiadol ym Mhrydain Fawr. Yn ôl Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU i'r Rheoliadau hyn, mae dau fater sy'n deillio o ymadael â'r UE wedi achosi oedi dros dro i brosesu ceisiadau o'r fath:
1. Nid oes gan Brydain Fawr fynediad at gronfa ddata'r UE bellach, sy'n cynnwys gwybodaeth am sylweddau gweithredol bioleiddiadol. 2. Mae newid o drefn yr UE i drefn Prydain Fawr wedi arwain at fewnlifiad untro o geisiadau i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy’n ceisio cael eu hawdurdodi o dan drefn newydd Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr.
Canlyniad hyn yw na fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gallu bodloni’r terfynau amser cyfreithiol o dan drefn Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr. Felly, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi estyniad o 5 mlynedd i’r terfyn amser ar gyfer prosesu ceisiadau (hynny yw, hyd at 31 Rhagfyr 2027). Mae hyn yn golygu y gall cynhyrchion bioleiddiadol a gafodd eu hawdurdodi cyn ymadael â’r UE aros ar y farchnad yn ystod yr estyniad hwn.
Datganiad gan Lywodraeth Cymru
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Hydref 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|